
Mae patrymau newidiol yn y ffordd yr ydym yn teithio a mwy o ddibyniaeth ar y car ar gyfer trafnidiaeth reolaidd yn cyfrannu at lai o weithgaredd corfforol, lefelau gordewdra a diabetes uwch, llygredd aer eang, ynysu cymdeithasol ac anghydraddoldebau iechyd sy’n gwaethygu.
Mae arferion gweithio mwy clyfar yn ddiweddar wedi amlygu’r potensial i gynyddu ffyrdd iachach a mwy eco-gyfeillgar o deithio i gefnogi mathau mwy cynaliadwy o drafnidiaeth.
Mae ein cynllun yn cynnwys:
- Datblygu a gweithredu Siartrau Teithio Llesol ar draws y sector cyhoeddus, preifat a’r trydydd sector.
- Datblygu a chynnal seilwaith beicio a cherdded a pharcio beiciau ymhellach
- Datblygu system trafnidiaeth gyhoeddus integredig
Beth allwch chi ei wneud i weithredu Siarter Teithio Llesol?
Mae sefydliadau ar draws Cymru yn dangos eu hymrwymiad i fathau iachach a mwy cynaliadwy o drafnidiaeth, trwy ymuno’n gyhoeddus â Siarter Teithio Llesol. Mae pob Siarter yn cynnwys cyfres o ymrwymiadau y bydd y sefydliad yn eu gwneud dros 3 blynedd i gynorthwyo eu staff ac ymwelwyr i gerdded a beicio mwy, defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus, a newid i gerbydau trydan.
Ewch i wefan Teithio Llesol Cymru am fwy o wybodaeth
Mae gostyngiad yn lefelau gweithgaredd corfforol, lefelau gordewdra a diabetes uwch, llygredd aer eang, ynysu cymdeithasol, ac anghydraddoldebau iechyd sy’n gwaethygu i gyd yn faterion iechyd y cyhoedd enbyd. Mae newid hinsawdd yn fygythiad difrifol sydd eisoes yn cael ei deimlo yn y DU ac ar draws y byd. Ewch i wefan Teithio Llesol Cymru
Sut gallwch chi gefnogi datblygiad llwybrau cerdded a beicio?
Mae Map Rhwydwaith Integredig Cyngor Caerdydd yn nodi ei weledigaeth 15 mlynedd i wella llwybrau beicio a cherdded ar draws y ddinas.
Ewch i’r wefan am fwy o wybodaeth
Mae Cyngor Bro Morgannwg yn gweithio i hybu a gwella cyfleoedd ar gyfer teithio llesol yn ardal yr awdurdod lleol. Ewch i’r wefan am fwy o wybodaeth
Beth allwch chi ei wneud i gefnogi’r defnydd o drafnidiaeth gyhoeddus?
Mae Prosiect Aer Glân Caerdydd yn cynnwys set o weithredoedd i drawsnewid y system trafnidiaeth gyhoeddus i leihau llygredd aer a chynyddu teithio llesol.
Gallwch ganfod mwy ar y wefan