
Mae traean o oriau gwaith person yn cael ei dreulio yn eu gweithleoedd, p’un ai yn y swyddfa neu gartref. Mae potensial mawr gan weithleoedd i hybu a chynnal iechyd a lles cyflogeion. Waeth pa fath o weithle, mae’n hanfodol bwysig bwyta’n iach a symud.
Gall cyflogwyr gynorthwyo eu staff i gynnal eu hiechyd a’u llesiant trwy sicrhau bod polisïau ac arferion yn eu lle sy’n cefnogi dewisiadau iach.
Mae ein cynllun yn cynnwys:
- Gofyn i bob bwyty/ffreutur staff sefydliadau Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus ymuno â safonau bwyd iach
- Cynorthwyo sefydliadau Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus i ddatblygu llwybrau cerdded a beicio sydd ar gael i/o safleoedd a chynlluniau teithio llesol
- Annog sefydliadau Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus i gymryd rhan mewn egwyddorion gweithleoedd iach
Beth gallwch chi ei wneud i annog bwyta’n iach yn eich gweithle?
Os oes gennych gyfleuster arlwyo yn eich gweithle, beth am fabwysiadu safonau bwyta’n iach ar gyfer eich gweithle? Os nad oes, gallwch rannu awgrymiadau a syniadau ar gyfer bwyta’n iach gyda’ch staff. Meddyliwch pan fyddwch yn archebu bwyd ar gyfer bwffe a phethau tebyg hefyd – mae llawer o gyfleoedd i gynnwys dewisiadau iach!
Er enghraifft, BIP Caerdydd a’r Fro yw’r Bwrdd Iechyd cyntaf yng Nghymru i roi safonau bwyta’n iach ar waith ar gyfer bwyd nad yw ar gyfer cleifion. Mae’r Safonau’n gofyn bod isafswm o 75% o’r bwyd a’r ddiod sydd ar gael yn iachach ac y gall eich cynorthwyo i ddatblygu eich ymagwedd tuag at hybu bwyta’n iach yn y gwaith.
I glywed eu stori, cliciwch yma
Mae Ymgyrch Dinas Lysiau Caerdydd yn cynyddu faint o lysiau sydd yn cael eu bwyta trwy newid pethau ar lefel leol – hybu llysiau, tyfu llysiau, cael mwy o lysiau mewn ysgolion, lleihau faint o lysiau sydd yn cael eu gwastraffu, a llawer mwy.
Maent yn galw ar weithleoedd i wneud addewid llysiau. Mae pecyn cymorth o syniadau ac adnoddau wedi cael eu creu ar gyfer gweithleoedd i’w cynorthwyo i wneud addewid llysiau.
Gallwch ganfod mwy ar wefan Dinas Llysiau (Saesneg un unig) neu cysylltwch â Chydlynydd Dinas Bwyd Cynaliadwy Bwyd Caerdydd: Pearl.Costello@wales.nhs.uk
Mewn partneriaeth â Refill Cymru rydym wedi creu pecyn cymorth i annog cyflogwyr i hybu eu staff i yfed dŵr. Mae buddion i iechyd staff wrth leihau gwastraff plastig ac mae’n gwneud gweithleodd yn fwy cynaliadwy. Daw’r pecyn cymorth ag asedau’r cyfryngau cymdeithasol, posteri a gwybodaeth i gyflogwyr i gynorthwyo hybu yfed dŵr yn eu lleoliad eu hunain.
e-bostiwch symudmwybwytaniach@wales.nhs.uk i gael mwy o wybodaeth.
Beth allwch chi ei wneud i ddatblygu teithio llesol yn eich gweithle?
Mae Cynllunydd Teithio Traveline Cymru yn cynnig ‘siop un stop’ ar gyfer pob gwybodaeth am deithio
Cynlluniwch eich teithiau cerdded a beicio yng Nghaerdydd gan ddefnyddio map cerdded a beicio Caerdydd
Mae sefydliadau ar hyd a lled Cymru yn dangos eu hymrwymiad i fathau iachach, mwy cynaliadwy o drafnidiaeth, trwy lofnodi Siarter Teithio Llesol yn gyhoeddus. Mae pob Siarter yn cynnwys cyfres o ymrwymiadau y bydd y sefydliad yn eu gwneud dros 3 blynedd i gynorthwyo eu staff a’u hymwelwyr i gerdded a beicio mwy, defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus, a newid i gerbydau trydan.
Ewch i wefan Teithio Llesol Cymru am fwy o wybodaeth
Rhowch gynnig ar her tîm i wneud mwy o gamau, mwy o filltiroedd ar y beic neu ofyn i bobl anfon lluniau i mewn o’u taith lesol i’r gwaith.
Mae Sustrans yn cynnig her teithio i’r gweithle. Mae eu her yn ffordd hwyliog a chyffrous i gyflogeion roi cynnig ar deithio llesol a chynaliadwy, gan greu’r sylfaen ar gyfer newid parhaus mewn ymddygiad. Mae’n gystadleuaeth ar-lein lle mae’r cyfranogwyr yn cofnodi eu teithiau cynaliadwy a llesol i’r gwaith. Mae’r cyflogeion yn cystadlu er mwyn cronni’r mwyafrif o deithiau cerdded, beicio, trafnidiaeth gyhoeddus a rhannu ceir. Gall her gynnwys sawl sefydliad gwahanol, sefydliad unigol neu adrannau mewnol yn cystadlu â’i gilydd, ac mae’n ffordd wych o ysgogi sefydlu arferion teithio newydd.
Mae mwy o wybodaeth ar gael yma (Saesneg un unig)
Email: challenge@sustrans.org.uk
Beth allwch chi ei wneud i sefydlu egwyddorion gweithle iach yn eich sefydliad a’ch gweithle?
Mae’r dyfarniad Safonau Iechyd Corfforaethol yn cydnabod gweithleoedd sydd yn hybu iechyd a lles eu cyflogeion. Mae’r Dyfarniad yn rhoi fframwaith gwych ar gyfer datblygu gweithleoedd iach. Mae dyfarniad hefyd ar gyfer Gweithleoedd Bach, gyda llai na 250 o gyflogeion.
Mae mwy o wybodaeth ar gael ar Wefan Cymru Iach ar Waith
Mae sawl ffeithlun wedi cael ei ddylunio i ddangos rhai camau syml y gall cyflogwyr a chyflogeion eu cymryd i ofalu am eu hiechyd a’u lles. Allwch chi eu dosbarthu yn eich sefydliad? Allwch chi eu harddangos rhywle amlwg?
Gwneud i Bob Cyswllt Gyfrif – Cwrs ar-lein ar gyfer cydweithwyr y Sector Cyhoeddus
Sut wyt ti? – Ymgyrch ac adnoddau Iechyd Cyhoeddus Cymru
Awgrymiadau Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru ar arferion iach yn y gweithle