
Mae dŵr yn hanfodol ar gyfer bywyd ac mae hydradu yn cyfrannu tuag at les corfforol a meddyliol da ar draws pob oed. Mae mynediad at ddŵr yfed o ansawdd da yn cefnogi’r angen i hydradu a thrwy annog y defnydd o orsafoedd ail-lenwi a lleihau’r defnydd o blastig untro, mae’n cael effaith gynaliadwy ar yr amgylchedd.
Yn ddiweddar, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru eu cefnogaeth i orsafoedd ail-lenwi ar draws Cymru a’r bwriad yw gwahardd plastig untro o 2021.
Mae ein cynllun yn cynnwys:
- Cynyddu nifer y gorsafoedd ail-lenwi dŵr cyhoeddus
- Sicrhau bod dŵr ar gael mewn safleoedd cyn-ysgol, ysgolion, gweithleoedd a sefydliadau eraill y sector cyhoeddus
Beth allwch chi ei wneud i gynyddu nifer y gorsafoedd ail-lenwi dŵr?
Os ydych yn fusnes gyda tap sydd ar gael i’r cyhoedd, ystyriwch ymuno â’r mudiad Ail-lenwi. Yr unig beth sydd angen i chi ei wneud yw rhoi ychydig fanylion i mewn i greu eich proffil am ddim ar y map. Unwaith bydd eich gorsaf yn fyw, byddwch yn barod i groesawu ail-lenwyr sychedig a manteisio ar y sylw a’r nifer cynyddol o ymwelwyr o ganlyniad i hynny. Ewch i wefan yr ap Ail-lenwi
Ar gyfer ardaloedd heb dap hygyrch gallwch ystyried gosod gorsaf ail-lenwi dŵr.
Darllenwch sut mae BIP Caerdydd a’r Fro wedi gwneud hyn yma (saesneg un unig)
Ewch i’r wefan Ail-lenwi am ganllawiau cyfredol yn ymwneud â gorsafoedd ail-lenwi dŵr yn ystod pandemig COVID-19.
Beth allwch chi ei wneud i sicrhau bod dŵr ar gael am ddim yn eich sefydliad?
Mewn partneriaeth â Refill Cymru rydym wedi creu pecyn cymorth i annog cyflogwyr i hybu eu staff i yfed dŵr. Mae buddion i iechyd staff wrth leihau gwastraff plastig ac mae’n gwneud gweithleodd yn fwy cynaliadwy. Daw’r pecyn cymorth ag asedau’r cyfryngau cymdeithasol, posteri a gwybodaeth i gyflogwyr i gynorthwyo hybu yfed dŵr yn eu lleoliad eu hunain. Bydd y pecyn cymorth yn cael ei lansio ym Mehefin 2021 a bydd ar gael i’w lawrlwytho yma.
Edrychwch ar y cefn am ddiweddariadau yn y dyfodol.
Anogir lleoliadau cyn-ysgol i weithio gyda Chynlluniau Cyn-ysgol Iach a Chynaliadwy Caerdydd a’r fro i weithio tuag at gyflawni statws bod yn safle cyn-ysgol iach. Mae testunau’r cynllun Maeth ac Iechyd y Geg, Gweithgaredd Corfforol a Chwarae Actif, yr Amgylchedd, ac Iechyd y Gweithle yn cyd-fynd ac yn cefnogi’r gwaith hwn i sicrhau bod dŵr ar gael am ddim mewn lleoliadau cyn-ysgol.
Mae’r Cynllun Cyn-ysgol Iach a Chynaliadwy yn gynllun achrediad cenedlaethol sydd yn cydnabod lleoliadau cyn-ysgol fel cyfranwyr tuag at iechyd a lles plant.
Cysylltwch â’ch cynllun lleol i ganfod mwy.
Caerdydd – ebost: Emma.Coleman@cardiff.gov.uk
Y Fro – ebost: Catherine.perry@wales.nhs.uk neu ewch i’r wefan am fwy o wybodaeth.
Anogir ysgolion i weithio gyda Chynllun Rhwydwaith Ysgolion Iach Cymru (WNHSS) sydd yn rhoi cymorth i bob ysgol a lleoliad addysg i wella iechyd a lles disgyblion, staff a theuluoedd. Maent yn darparu gwybodaeth, adnoddau addysgu a chyngor. Y testunau sydd yn cael eu cynnwys yn y cynllun sydd yn cyd-fynd ac yn cefnogi’r gwaith hwn i sicrhau bod dŵr ar gael am ddim mewn ysgolion yw Bwyd a Ffitrwydd, Iechyd a Lles Meddyliol ac Emosiynol (datblygiad gweithle sydd yn hybu iechyd) a’r Amgylchedd.
Cysylltwch â’ch Tîm Ysgolion Iach am fwy o wybodaeth:
Caerdydd – ebost: Karen Trigg ktrigg@cardiff.gov.uk
Y Fro – ebost: Christine Farr Christine.farr@wales.nhs.uk
Enghreifftiau o weithredu:
Annog plant i ddod â’u poteli eu hunain wedi eu labelu i’w defnyddio yn ystod y dydd
Sicrhau bod ffynhonnau dŵr/gorsafoedd ail-lenwi yn hygyrch ac yn lân
Annog Staff i fod yn fodelau rôl o ran arferion hydradu da i blant – gweler uchod am wybodaeth am becyn cymorth gweithle hydradu neu ddefnyddio poteli wedi eu labelu
Cynhelir Diwrnod Ail-lenwi’r Byd ar 16 Mehefin i hyrwyddo hydradu a chynaliadwyedd ac atal llygredd plastig. Ewch i wefan Diwrnod Ail-lenwi’r Byd am fwy o wybodaeth ynghylch sut i gymryd rhan yn eich sefydliad (saesneg un unig).