Mae cydweithredu yn allweddol i sicrhau bod symud mwy a bwyta’n dda yn ddewisiadau hawdd a hygyrch ar draws Caerdydd a Bro Morgannwg. Mae partneriaid cynllun partneriaeth #SymudMwyBwyta’nDda wedi bod yn cefnogi unigolion yng Nghaerdydd gyda mynediad at fwyd wrth wynebu pandemig COVID-19.

I ddechrau, addasodd Dod â Phobl at ei Gilydd Trwy Fwyd, sydd yn weithgareddau cymunedol rheolaidd â’r nod o gysylltu pobl o bob oed a chefndir trwy dyfu, coginio a bwyta bwyd da, ei gynnig o grant bach i alluogi cymunedau i roi cefnogaeth gyda’r heriau yr oedd unigolion yn eu hwynebu wrth gael mynediad at fwyd. Ynghyd â Bwyd Caerdydd, a dau sefydliad partner arall, dechreuodd Dod â Phobl at ei Gilydd Trwy Fwyd gyflwyno’r prosiect, ‘Caerdydd yn Tyfu Gyda’i Gilydd’.

Gan ganolbwyntio ar gefnogi unigolion i dyfu eu cynnyrch eu hunain gartref a rhoi cyngor a gwybodaeth ynghylch sut i wneud prydau o’r bwyd y maent yn ei dyfu gartref, dechreuodd y pedwar sefydliad gyflwyno ‘Caerdydd yn Tyfu Gyda’i Gilydd’ ar y cyd.

Gan rannu cyngor am arfer gorau a chynlluniau logisteg, pa blanhigion fyddai fwyaf addas a sut i gynorthwyo unigolion i dyfu eu rhai eu hunain, dechreuodd y bartneriaeth gyrraedd pobl Caerdydd.

Gan ddosbarthu pecynnau tyfu a chynnig awgrymiadau a chyngor i rannau gwahanol o’r gymuned, dosbarthwyd bron 14,000 o blanhigion, hadau a phecynnau tyfu i dros 3,000 o aelwydydd, cartrefi gofal a banciau bwyd yn y ddinas – 450 yn fwy nag y rhagwelwyd yn wreiddiol.

Y tu hwnt i ddarparu planhigion, cynhaliodd gwirfoddolwyr Caerdydd yn Tyfu Gyda’i Gilydd 31 o sesiynau rhithiol neilltuol wnaeth helpu i ddysgu unigolion sut i ofalu am eu planhigion a’u cynnal. Pan oedd y bwyd yn barod, dysgodd y sesiynau hyn unigolion sut i goginio gyda’r bwyd yr oeddent wedi ei dyfu a sut i greu pryd gyda’u cynnyrch eu hunain.

Roedd dros 75% o’r unigolion a’r teuluoedd oedd yn gysylltiedig â Chaerdydd yn Tyfu Gyda’i Gilydd erioed wedi tyfu bwyd o’r blaen – nid oedd gan lawer ohonynt ardd draddodiadol i dyfu bwyd. Fodd bynnag, gyda chymorth a mewnwelediad y tîm gwirfoddoli a’r pedwar sefydliad, cawsant eu dysgu sut i dyfu bwyd ar siliau ffenestri, balconïau ac mewn ardaloedd cymunedol.

Mwy na bwyd da…

Mae’r ymagwedd gydweithredol hon wedi arwain at fwy na gwella mynediad at fwyd da. Mae’r unigolion oedd yn gysylltiedig wedi gallu cyfarfod â phobl newydd, rhannu straeon a syniadau, cael sgiliau newydd a chymorth i wella eu lleisnat yn ystod y cyfnod clo.

Yn ogystal, mae Caerdydd yn Tyfu Gyda’i Gilydd wedi bod yn gweithio mewn partneriaeth â Chanolfan Dablygu Cymunedol Glan yr Afon yn cynnig llysiau ffres a phlanhigion i breswylwyr lleol. Cafwyd diddordeb mawr ym mhob sesiwn a gynhaliwyd yng Nglan yr Afon, gan ddenu 70 o bobl oedd yn awyddus i rannu eu straeon, awgrymiadau tyfu a’u syniadau coginio gyda’r tîm, gan ddefnyddio eu treftadaeth fel ysbrydoliaeth.

Mae gwella mynediad at fwyd da a chefnogi unigolion i wneud newidiadau cynaliadwy, fel tyfu eu ffrwythau a’u llysiau eu hunain, yn rhan hanfodol o greu cymunedau iach sydd yn mabwysiadu prosesau caffael bwyd iach a chynaliadwy.

Mae’r bartneriaeth rhwng Bwyd Caerdydd, Dod â Phobl at ei Gilydd Trwy Fwyd a’r sefydliadau a’r gwirfoddolwyr eraill sydd yn gysylltiedig â ‘Chaerdydd yn Tyfu Gyda’i Gilydd’ wedi cynorthwyo unigolion i wneud newidiadau gweithredol fydd yn cael effaith fawr ar eu ffordd o fyw. I ganfod mwy, ewch i:

Bwyd Caerdydd: https://foodcardiff.com/

Dod â Phobl at ei Gilydd Trwy Fwyd: https://www.fflgettogethers.org/

Hefyd, i ddysgu mwy am y ffordd y gall creu cymunedau iach gefnogi’r cynllun partneriaeth trosfwaol Symud Mwy Bwyta’n Dda, ewch i’r dudalen maes blaenoriaeth ar y we.