
CYNLLUN CYN-YSGOL IACH A CHYNALIADWY BRO MORGANNWG
SUT RYDYM YN CYNORTHWYO LLEOLIADAU CYN-YSGOL I SYMUD MWY A BWYTA’N IACH
Mae’r cynllun wedi ei anelu at yr holl ddarpariaeth gofal plant cyn-ysgol, yn cynnwys meithrinfeydd, grwpiau chwarae, gofalwyr plant a chanolfannau teulu.
Nod y cynllun yw hybu iechyd mewn sawl maes yn cynnwys:
- Maeth ac iechyd y geg
- Gweithgaredd corfforol a chwarae egnïol
Nod y cynllun, gan ddefnyddio ymagwedd gadarnhaol, yw cydnabod arfer da er mwyn i feithrinfeydd, grwpiau chwarae a gofalwyr plant sydd yn rhan o’r cynllun allu gweithio eu ffordd yn raddol trwy’r testunau uchod.
Mae nifer o leoliadau cyn-ysgol sydd wedi ymuno â Chynllun Cyn-ysgol Iach a Chynaliadwy ar hyn o bryd ac yn gwneud gwaith rhagorol.
Mae gwaith partneriaeth yn allweddol i lwyddiant y cynllun. Mae llawer o arferion iechyd yn cael eu sefydlu’n ifanc, gan wneud amgylchedd y blynyddoedd cynnar yn amser delfrydol i ddylanwadu ar iechyd plentyn.
Mae gan ymarferwyr y blynyddoedd cynnar y potensial i wneud cyfraniad enfawr i iechyd a llesiant plant yn eu gofal, ac mae Cynllun Cyn-ysgol Iach a Chynaliadwy Bro Morgannwg yn eu helpu i wneud hyn.
Mae’r blynyddoedd cynnar yn amser tyngedfennol i blant. Mae tair blynedd cyntaf bywyd plentyn yn arbennig o bwysig i ddatblygiad iach a gall buddsoddi mewn plant mor ifanc â hyn wella gweddill eu bywydau.
Nod Cynllun Cyn-ysgol Iach a Chynaliadwy Bro Morgannwg yw hybu iechyd plant cyn-ysgol, eu teuluoedd a’u gofalwyr. Mae’r cynllun yn cyrraedd plant ifanc trwy’r sefydliadau gofal plant y maent yn eu mynychu (meithrinfeydd, grwpiau chwarae a gofalwyr plant) ac yn annog ymddygiad iach o oed ifanc iawn.
Mae’r cynllun wedi ei rannu’n 8 maes testun iechyd:
- Cyfnod Rhagarweiniol (cyflwyniad i’r cynllun)
- Maeth ac iechyd y geg
- Gweithgaredd corfforol a chwarae egnïol
- Diogelwch
- Hylendid
- Iechyd meddwl ac emosiynol, llesiant a chydberthynas
- Amgylchedd
- Iechyd yn y gweithle
Mae sefydliadau gofal plant yn casglu tystiolaeth i ddangos eu bod yn bodloni’r meini prawf ym mhob un o’r meysydd uchod. Darperir cymorth ac anogaeth trwy ddigwyddiadau hyfforddiant, cylchlythyron, adnoddau ac ymweliadau gan aelod o Dîm
Cyn-ysgol Iach a Chynaliadwy Bro Morgannwg.
Mae gwaith partneriaeth yn allweddol i lwyddiant ac mae llawer o sefydliadau ac unigolion gwahanol yn gysylltiedig. Mae gan ymarferwyr y blynyddoedd cynnar y potensial i wneud cyfraniad sylweddol i iechyd a llesiant plant yn eu gofal, ac mae Cynllun Cyn-ysgol Iach a Chynaliadwy Bro Morgannwg yn manteisio i’r eithaf ar eu sgiliau a’u profiad. Er mwyn creu cymdeithas hapus ac iach, mae angen i ni fagu ein plant mewn ffordd hapus ac iach.
MANYLION CYSWLLT